Mae ugain miliwn o bobol yn newynu yn yr Yemen – 70% o’r boblogaeth.

Ac mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn dweud hefyd fod 250,000 o bobol yn wynebu cyflafan o ganlyniad i “ddirywiad dramatig a sylweddol” sydd yn “ddychryn” i weithwyr dyngarol.

Am y tro cyntaf erioed, mae 250,000 o bobol Yemen yn newynu ac yn diodde’ o ddiffyg maeth ac yn wynebu marwolaeth.

Mae’r bobol hyn yn ardaloedd Taiz, Saada, Hajja a Hodeida.

Yr unig wlad arall sy’n diodde’ newyn cyn waethed, yw De Sudan, gyda 25,000 o’r boblogaeth yn newynu.