Mae cyn-blismon yn Rwsia wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar am ladd 56 o fenywod.
Fe gafodd Mikhail Popkov, sy’n dod o ddinas Angarsk yn nwyrain Siberia, ei ganfod yn euog o’r gyfres o lofruddiaethau a fu rhwng 1994 a 2000.
Mae’r gŵr, a gafodd ei arestio yn 2012, eisoes yn treulio dedfryd oes am 22 o lofruddiaethau eraill.
Mae Mikhail Popkov yn cael ei ystyried y llofrudd mwyaf toreithiog yn Rwsia yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Bu’r heddlu lleol yn ymchwilio i’r marwolaethau yn ardal Irkutsk am flynyddoedd, lle cafodd dwsinau o ferched eu treisio a’u lladd mewn mannau anghysbell.
Daeth profion seiciatrig i’r casgliad fod Mikhail Popkov yn ei iawn bwyll.