Mae’r awdurdodau wedi dechrau glanhau strydoedd Paris yn dilyn y protestiadau diweddaraf yn y ddinas.

Cafodd 71 o bobol eu hanafu dros y penwythnos, ac fe gafodd cryn dipyn o ddifrod ei achosi.

Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron wedi diolch i’r heddlu, ond mae yntau dan bwysau i gynnig ateb i’r problemau a arweiniodd at y sefyllfa bresennol.

Roedd 125,000 o bobol ar strydoedd prifddinas y wlad ddydd Sadwrn yn galw am leihau trethi a gwella safon byw yn y wlad yn gyffredinol.

Cafodd oddeutu 1,220 o bobol eu dwyn i’r ddalfa o amgylch Ffrainc dros y penwythnos, wrth i’r heddlu archwilio pobol a mynd ag unrhyw beth oddi arnyn nhw a allai gael ei ddefnyddio fel arf.

Bu rhai o adeiladu’r brifddinas ynghau dros y penwythnos, gan gynnwys amgueddfa’r Louvre a Thŵr Eiffel, ond maen nhw bellach wedi’u hagor eto.