Mae’r heddlu yn Sweden yn chwilio am ddyn mewn dillad clown wedi iddo ddychryn bachgen 8 oed ar ei ffordd i’r ysgol.

Dyma’r achos diweddaraf o oedolion mewn gwisgoedd anghyffredin yn dychryn pobol o fewn yr ardal yn Kumla, sydd tua 105 milltir o Stockholm.

Yn ôl yr heddlu, mae tystion yn dweud iddyn nhw weld y bachgen yn cael ei ddychryn gan y dyn, cyn iddo gael cyfle i ddianc.

Ddwy flynedd yn ôl, bu cymaint o achosion tebyg o bobol wedi gwisgo fel clowniau yn Sweden, Norwy a Denmarc, fel y stopiodd cwmni teganau o Norwy werthu gwisgoedd clown.