Mae prydau twrci Nadolig ar eu ffordd i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol – er bod capsiwl y SpaceX oedd yn eu cario wedi methu glanio yn iawn, ac wedi mynd ar ei ben i’r môr ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 5).

Dyma’r tro cyntaf, ers mentro dwsin o weithiau ers 2015, i’r SpaceX fethu â glanio’n ddiogel yn yr Orsaf.

Y tro hwn, mae capsiwl arall y Dragon wedi’i anfon i’r gofod i wneud y gwaith o gario ei gargo o brydau Nadoligaidd. Mae disgwyl i Dragon gyrraedd pen ei daith.

Ond yn ogystal â’r bwyd ar gyfer dydd Nadolig, mae’r capsiwl hefyd yn cario 40 o lygod a 36,000 o bryfed genwair ar gyfer arbrofion yn ymwneud â heneiddio a gwaith ar gyhyrau’r corff.