Mae’r awdurdodau yn Nhwrci wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu arestio dau gyn-weithiwr i Dywysog Coronog Sawdi Arabia.

Mae’n debyg bod y ddau wedi cael eu diswyddo o wasanaeth Mohammed bin Salman yn sgil y ffrae ryngwladol a gododd ar ôl llofruddiaeth y newyddiadurwr, Jamal Khashoggi.

Yn ôl y wasg yn Nhwrci, mae llys yn y wlad wedi caniatáu gwarant i arestio Saud Al-Qahtan, cyn-ymgynghorydd i’r llys brenhinol, ynghyd ag Ahmed Al-Assiri, cyn-ddirprwy bennaeth gwybodaeth.

Y gred yw mai’r ddau hyn oedd yn gyfrifol am y tîm a laddodd Jamal Khashoggi, colofnydd gyda’r Washington Post, yn Llysgenhadaeth Sawdi Arabia yn Istanbul ym mis Hydref.

Daw’r cam ar ôl i’r Cenhedloedd Unedig gyhoeddi bod angen cynnal ymchwiliad rhyngwladol i’r llofruddiaeth.

Mae Sawdi Arabia eisoes wedi arestio 21 o bobol mewn cysylltiad â’r digwyddiad, gan ddweud bod pump yn wynebu’r gosb eithaf.