Mae cwymp gwareiddiadau a diflaniad darnau helaeth o fyd natur “ar y gorwel”, yn ôl y naturiaethwr a’r darlledwr, David Attenborough.

Mewn neges o rybudd i ddigwyddiad gan y Cenhedloedd Unedig yng Ngwlad Pwyl heddiw (Rhagfyr 3), mae’r gŵr 92 oed wedi galw ar arweinwyr a gwleidyddion y byd i weithredu ar unwaith yn yr ymdrech i leihau lefelau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Dywedodd fod y byd yn wynebu’r “bygythiad mwyaf mewn miloedd o flynyddoedd” wrth i’r hinsawdd newid.

Roedd David Attenborough yn bresennol yn y cyfarfod ar ran bwriad y Cenhedloedd Unedig i roi llais i bobol gyffredin mewn trafodaethau rhyngwladol. Cafodd eu barn eu casglu trwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol a pholau piniwn yn ystod y pythefnos diwethaf.

Yn ystod yr un cyfarfod, fe lansiodd y Cenhedloedd Unedig wefan o’r enw ‘ActNow.bot’, sy’n helpu pobol i ddod o hyd i bethau syml y gallan nhw eu gwneud er mwyn helpu’r amgylchedd ac atal newid hinsawdd.

Rhybudd

“Mae pobol y byd wedi dweud eu dweud,” meddai David Attenborough.

“Mae eu neges yn glir: does dim llawer o amser ar ôl ac maen nhw eisiau i chi, y bobol sy’n gwneud penderfyniadau, i weithredu nawr.

“Maen nhw’n eich cefnogi chi i wneud penderfyniadau anodd, ac maen nhw hefyd yn fodlon aberthu pethau yn eu bywydau beunyddiol.

“Mae’r bobol wedi dweud eu dweud,” meddai wedyn. “Arweinwyr y byd, mae angen i chi arwain.

“Mae parhad ein gwareiddiadau a’r byd yr ydym ni’n ddibynnol arno yn eich dwylo chi.”