Mae actores o’r Aifft wedi dweud nad oedd hi wedi bwriadu “sarhau” unrhyw un wrth ddangos ei choesau mewn gŵyl ffilmiau yn Cairo ddydd Iau (Tachwedd 29).

Mae Rania Youssef yn wynebu cyhuddiad o ymddygiad anweddus ar ôl gwisgo ffrog oedd yn dangos ei choesau’n llwyr.

Cafodd lluniau eu rhannu’n eang ar y cyfryngau cymdeithasol, a chafodd achos ei ddwyn yn ei herbyn.

Bydd hi’n mynd gerbron llys ar Ionawr 12.

Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd nad oedd hi wedi disgwyl y fath ymateb, a’i bod hi wedi cael ei dylanwadu gan arbenigwyr ffasiwn wrth ddewis ei dillad ar gyfer y digwyddiad.