Mae Llywodraeth Sbaen wedi cyhoeddi bod gan long oedd wedi achub ffoaduriaid yr hawl i aros ym Melita.

Fe dreuliodd y Nuestra Senora de Loreta fwy nag wythnos ar y môr wrth aros am ganiatâd i gyrraedd y lan.

Roedd Melita a’r Eidal wedi gwrthod rhoi caniatâd yn y lle cyntaf, am ei bod wedi achub 12 o ffoaduriaid o ddyfroedd Libya. Cafodd un ohonyn nhw ei symud oddi yno ddydd Gwener am resymau meddygol.

Mae’r ffrae yn parhau ymhlith gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ynghylch pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am ffoaduriaid o Ogledd Affrica.