Mae Theresa May wedi rhoi addewid y bydd Llywodraeth Prydain yn parhau i amddiffyn Ynysoedd y Falkland, wedi iddi lanio yn yr Ariannin ar gyfer uwchgynhadledd y G20.

Hi yw’r Prif Weinidog Ceidwadol cyntaf i ymweld â’r wlad ers y rhyfel rhwng lluoedd yr Ariannin a gwledydd Prydain ar yr ynysoedd yn Ne America yn 1982.

Bydd Theresa May yn cyfarfod ag Arlywydd yr Ariannin, Mauricio Marci, yn ystod yr uwchgynhadledd yn Buenos Aires, lle mae disgwyl i arweinwyr gwledydd mwyaf y byd fod yn bresennol.

Er bod disgwyl i’r ddau arweinydd drafod Ynysoedd y Falkland, mae’n debyg na fydd y mater yn dominyddu’r sgwrs, wrth iddyn nhw ganolbwyntio yn fwy ar fasnach.

Cyfarfodydd                                                                                      

Dau arweinydd y mae disgwyl iddyn nhw fod yn bresennol yn y G20 yw Tywysog Coronog Sawdi Arabia, Mohammed bin Salman, ac Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Daw eu hymweliadau yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau yn ystod y misoedd diwethaf sydd wedi cynyddu tensiynau ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae Theresa May wedi cadarnhau y bydd yn siarad â’r Tywysog Coronog, ac mae disgwyl i’r ddau drafod llofruddiaeth y newyddiadurwr, Jamal Khashoggi, a’r rhyfel yn yr Yemen.

Mae’r Prif Weinidog hefyd yn gobeithio ennill cefnogaeth i’w chytundeb Brexit yn ystod y G20, gan geisio perswadio arweinwyr y bydd yn dda i economi’r byd.