Mae disgwyl i beilot Siapaneaidd, a gyfaddefodd ei fod naw gwaith dros y terfyn alcohol ychydig cyn taith o Faes Awyr Heathrow, gael ei ddedfrydu heddiw (dydd Iau, Tachwedd 29).

Fe gafodd Katsutoshi Jitsukawa, 42, ei arestio yn y maes awyr ar ôl methu prawf anadl o fewn awr cyn iddo ddechrau ar daith i Tokyo.

Roedd yr awyren yr oedd disgwyl i’r peilot hedfan yn Boeing 777, sy’n gallu dal hyd at 244 o deithwyr.

Mae’r Katsutoshi Jitsukawa eisoes wedi pledio’n euog yn ystod achos yn Llys Ynadon Uxbridge ar Dachwedd 1.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Isleworth yn ystod y prynhawn heddiw.

Mae Japan Airlines, sef y cwmni yr oedd yn gweithio iddo, wedi ymddiheuro am y digwyddiad, gan ddweud ei bod nhw am sicrhau na fydd digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.