Mae peilot o dan archwiliad ar ôl syrthio i gysgu tra’n hedfan awyren cludo nwyddau, a mynd phasio ei fan glanio o 29 milltir.

Y bwriad oedd glanio ar ynys yn Awstralia, ond fe fethodd rheolwyr traffic awyr â chael gafael ar y peilot, gan ei fod yn cysgu.

Y peilot oedd yr unig berson ar yr awyren Piper PA-31 Navajo Chieftain wrth iddo hedfan o ddinas Devonport yn Tasmania i Ynys King.

Mae’r cwmni awyrennau o Melbourne yn cadarnhau fod y peilot “wedi syrthio i gysgu yn anfwriadol tra’n hedfan yr awyren”.

Fe lwyddodd y peilot i lanio’r awyren yn saff ar Ynys King, ar ôl iddo deffro.