Mae digrifwr o Sbaen wedi ymddangos gerbron llys yn Madrid, wedi iddo chwythu ei drwyn gyda hanes y wlad yn ystod sgets ar y teledu.

Mae Daniel Mateo dan amheuaeth o “ddwyn anfri ar symbol y wlad ac o annog casineb”, ac mae’n wynebu cyfnod o hyd at bedair blynedd yn y carchar os y bydd y llys yn ei gael yn euog.

Mae’r perfformiwr 29 oed wedi gwrthod rhoi tystiolaeth yn ystod ei ymddangosiad cyntaf o flaen ei well, gan ddadlau ei fod angen mwy o amser i baratoi ei amddiffyniad.

Ond mae wedi dweud ei fod yn poeni am ddelwedd ei wlad “os oes raid i glown sefyll gerbron barnwr, dim ond am iddo wneud ei waith”.

Mae’r sgets wedi esgor ar drafodaeth ehangach yn Sbaen ynglyn â chenedlaetholdeb a’r cyfyngu ar ryddid barn o fewn y byd comedi.