Mae pedwar milwr wedi cael eu lladd yn dilyn damwain hofrennydd yn Istanbul.

Yn ôl y cyfryngau yn Nhwrci, fe holltodd yr hofrennydd yn ddau ar ôl plymio i’r ddaear rhwng dau adeilad yn y brifddinas.

Ar wahân i’r rheiny fu farw, chafodd neb eu hanafu heblaw am un milwr a gafodd ei gludo i’r ysbyty yn fuan wedi’r digwyddiad.

Does dim gwybodaeth eto ynglŷn ag achos y ddamwain, ond mae lle i gredu bod yr hofrennydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant.