Mae Arlywydd Rwmania, Klaus Iohannis wedi croesawu cytundeb Brexit Theresa May a fydd, meddai, yn gwarchod hawliau trigolion y wlad yng ngwledydd Prydain.
Mae cannoedd o filoedd o Rwmaniaid yn byw yng ngwledydd Prydain.
Bydd y cytundeb yn eu galluogi i fyw, gweithio ac astudio yng ngwledydd Prydain, a derbyn pensiynau ac yswiriant iechyd, ymhlith buddiannau eraill.
Fydd dim angen fisa ar drigolion Rwmania i deithio i wledydd Prydain ar ôl Brexit.
“Roedden ni’n gofidio am y materion hyn,” meddai.
“Ac fe wnaethon ni wthio am ddiffinio’r pethau hyn yn glir.”