Mae pleidleiswyr yn Taiwan wedi gwrthod rhoi’r hawl i gyplau o’r un rhyw briodi.
Roedd gobaith mai’r ynys fyddai’r lle cyntaf ar gyfandir Asia i’w cymeradwyo, er mwyn rhoi hawliau i gyplau o’r un rhyw ynghylch plant a buddiannau yswiriant.
Grwpiau Cristnogol oedd wedi trefnu’r refferendwm – maen nhw’n cyfateb i oddeutu 5% o boblogaeth y wlad.
Siom
Mae canlyniad y bleidlais yn mynd yn groes i ddyfarniad y Llys Cyfansoddiadol y llynedd, lle’r oedd disgwyl i briodasau o’r un rhyw gael eu cyfreithlonni o fewn dwy flynedd.
Er nad oes rhaid i wleidyddion ystyried canlyniad y bleidlais wrth ddeddfu, mae’n annhebygol y byddan nhw’n mynd yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o’r boblogaeth.
Er gwaetha’r refferendwm, mae pleidleiswyr wedi dewis rhoi’r hawl i gyplau o’r un rhyw uno o dan broses wahanol na fydd yn cael ei hystyried yn briodas.
Mae ymgyrchwyr tros hawliau dynol wedi mynegi eu siom ynghylch y canlyniad.