Mae o leiaf 30 o aelodau al-Qaida wedi cael eu lladd gan luoedd gwrth-frawychiaeth Ffrainc ym Mali.

Mae lle i gredu y gallai un o’r prif arweinwyr jihadaidd, Hamadoun Kouffa fod yn eu plith.

Roedd yr ymosodiad yn gyfuniad o ymosodiadau o’r awyr, dronau, hofrenyddion a milwyr troed. Dyma’r ymgyrch filwrol fwyaf gan Ffrainc mewn gwlad dramor, gyda 3,000 o filwyr yn cymryd rhan.

Cafodd aelodau al-Qaida eu symud o rannau helaeth o ogledd Mali yn 2013, ond maen nhw’n dal yn weithgar mewn ardaloedd gwledig.

Daw’r ymosodiad diweddaraf wythnosau’n unig ar ôl i arweinydd jihadaidd arall, Almansour Ag Alkassoum gael ei ladd rhwng Timbuktu a Mopti yn rhanbarth Gourma.