Mae 27 wedi marw wedi i fom ffrwydro mewn mosg ar safle milwr yn nhalaith Khost yn nwyrain Afghanistan.

Dyma’r ymosodiad diweddaraf wrth i’r Taliban dargedu byddin y wlad bron yn ddyddiol.

Yr wythnos hon fe laddodd hunanfomiwr 55 o ysgolheigion crefyddol yn y brifddinas, Kabul, wrth iddyn nhw ddod ynghyd i ddathlu geni’r Proffwyd Muhammad.

Heddiw hefyd mae cannoedd o brotestwyr wedi blocio ffyrdd yn nhalaith ogleddol Parwan, wrth iddyn nhw brotestio bod tri o bobol ddiniwed, medden nhw, gael eu lladd wrth i’r fyddin dargedu’r Taliban.