Mae Seneddwyr yn pwyso ar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump i benderfynu ai Tywysog Coronog Sawdi Arabia oedd yn gyfrifol am farwolaeth y newyddiadurwr, Jamal Khashoggi.

Mewn llythyr ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 20), mae Bob Corker a Bob Menendez yn galw am ymchwiliad o dan ddeddf hawliau dynol i benderfynu a oedd Mohammed bin Salman wedi gorchymyn dynion arfog i ladd newyddiadurwr The Washington Post yn llysgenhadaeth Sawdi Arabia yn Istanbwl.

Mae erlynwyr yn Saudi Arabia yn dweud bod 15 o ddynion arfog wedi cael eu hanfon i Istanbul, a’u bod wedi gweithredu y tu allan i’w hawdurdod wrth weithredu ar orchymyn gan brif drafodwr am fod Jamal Khashoggi wedi anwybyddu gorchymyn i ddychwelyd.

Mae lle i gredu i’w gorff gael ei ddadfeilio, ond does dim sôn am y corff hyd yn hyn.

Mae Donald Trump yn dweud bod ei farwolaeth yn “drosedd ofnadwy… nad yw ein gwlad yn ei chymeradwyo”.

Ond mae’n gwadu y dylai ymateb yn fwy llym, gan gwestiynu’r posibilrwydd fod Mohammed bin Salman yn gwybod am y cynllwyn i ladd y newyddiadurwr – “efallai ei fod e, efallai ddim,” meddai.

Cefndir

Fe gafodd Jamal Khashoggi ei ladd ar Hydref 2, ar ôl bod yn feirniadol o deulu brenhinol Sawdi Arabia. Roedd yn golofnydd i bapur The Washington Post.

Mae’r Unol Daleithiau wedi gosod sancsiynau ar 17 o bobol o Sawdi Arabia sydd wedi’u hamau o fod â rhan yn ei farwolaeth, ond mae aelodau Cynghres yr Unol Daleithiau’n galw am gosbau llymach, gan gynnwys atal cytundebau i werthu arfau.

Ond mae Donald Trump yn dadlau y byddai atal y cytundebau’n “ffolineb”, gan y byddai o fudd i Rwsia a Tsieina, ac y byddai prisiau olew’n codi’n sylweddol pe bai’r Unol Daleithiau’n cefnu ar Sawdi Arabia.