Mae’r Brenin Salman o Sawdi Arabia, wedi datgan fod ei wlad yn cefnogi ateb gwleidyddol heddychlon i roi diwedd ar y rhyfel yn Yemen.

Dywedodd mewn araith heddiw ei fod yn barod i gefnogi cynllun y Cenhedloedd Unedig sy’n galw ar wrthryfelwyr Yemen, yr Houthi, i gilio o’r dinasoedd y maen nhw wedi eu cipio yno.

Mae’r ddwy wlad wedi bod yn rhyfela ers mis Mawrth 2015, ac mae Sawdi Arabia wedi bod yn destun i alwadau dro ar ôl tro gan America a Prydain i ddod â’r gwrthryfel i ben.

Yn ei araith hefyd fe fu’r Brenin Salman yn cyhuddo Iran o achosi anhrefn yn ei wlad – mae llawer o sylwebwyr yn credu mai ymrafael am rym rhwng Iran a Sawdi Arabia sydd wrth wraidd y rhyfela yn Yemen.

Mae’r gwrthdaro rhwng dwy adain Islam – y Shia a’r Sunni – hefyd yn rhan o’r gwthdaro: Iran a’r Houthi yn Shiaidd a Sawdi Arabia a llywodraeth swyddogol Yemen yn Sunni.