Mae un o draddodiadau’r Nadolig yn yr Iseldiroedd yn destun ffraeo cynyddol yn y wlad.

Un o gynorthwywyr Sion Corn yw ‘Pedr Ddu’, ac yn aml mae pobl yn paentio’u hwynebau yn ddu wrth actio’r cymeriad mewn dathliadau Nadoligaidd.

Tra bo rhai yn honni bod hyn yn gyfystyr â stereoteipio hiliol, mae eraill yn benderfynol o amddiffyn y traddodiad.

Gyda gorymdeithiau i greosawu ‘Sinterklaas’ ar hyd a lled y wlad heddiw, daw adroddiadau am helyntion mewn sawl tref a dinas.

Dywedd heddlu Rotterdam fod tri o bobl wedi cael eu harestio wrth i gefnogwyr Pedr Ddu ffraeo â phrotestwyr, ac yn Leeuwarden yng ngogledd y wlad, bu’n rhaid i’r heddlu rwystro dau grŵp rhag ymladd. Yr un oedd y stori yn ninas gyfagos Groningen lle bu’r heddlu’n gwahanu du grŵp er mwyn osgoi gwrthdrawiad.