Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi dod i’r casgliad bod arestio arweinydd yr wrthblaid yn Rwsia wedi bod yn “weithred wleidyddol”.

Dyfarnodd y llys yn Ffrainc heddiw (dydd Iau, Tachwedd 15) fod yr awdurdodau wedi gweithredu yn groes i hawliau dynol Alexei Navalny drwy ei arestio ar nifer o wahanol adegau rhwng 2012 a 2014.

Mae’r llys wedi gorchymyn Rwsia i dalu 63,000 euro mewn iawndal i’r gwleidydd, ac i gyflwyno newid i gyfraith y wlad a fydd yn galluogi pobol i brotestio’n heddychlon.

Mae’r dyfarniad yn un gorfodol, gan fod Rwsia yn aelod o Cyngor Ewrop.

Cafodd Alexei Navalny ei atal rhag gan awdurdodau Rwsia rhag gadael y wlad ddechrau’r wythnos, cyn cael yr hawl yn ôl ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 14). Roedd ar ei ffordd i’r gwrandawiad yn Llys Hawliau Dynol Ewrop.