Mae un o erlynwyr pennaf Sawdi Arabia yn argymell dyfarnu’r gosb eithaf i bum person sydd wedi’u cyhuddo o orchymyn a chyflawni llofruddiaeth newyddiadurwr o’r wlad.

Fe gafodd Jamal Khashoggi ei ladd yn Llysgenhadaeth Sawdi Arabia yn Nhwrci ar Fedi 29, gan achosi ffrae ryngwladol.

Mewn cynhadledd i’r wasg arbennig yn Riyadh heddiw (Tachwedd 15), dywedodd yr erlynydd, Sheikh Saud al-Mojeb, fod yna gynllunio i ladd y newyddiadurwr wedi bod dyddiau o flaen llaw, cyn i’r weithred gael ei chyflawni yn y llysgenhadaeth yn Istanbul.

Dywedodd hefyd mai’r swyddog mwyaf blaenllaw sydd â chysylltiad â’r llofruddiaeth yw’r cyn-ddirprwy gwybodaeth, Ahmad al-Assiri, a gafodd ei ddiswyddo am alw Jamal Khashoggi i’r llysgenhadaeth.

Ychwanegodd yr erlynydd fod 21 o bobol yn y ddalfa ar hyn o bryd, gyda 11 wedi’u cyhuddo ac yn disgwyl ymddangos gerbron y llys.

Mae Twrci, ar y llaw arall, yn honni bod y gorchymyn i ladd y newyddiadurwr wedi dod o haen uchaf Llywodraeth Sawdi Arabia.