Mae mwy na 30 o blismyn wedi cael eu lladd yn Afghanistan yn ystod ymosodiad dros nos gan y Taliban.

Bu’r digwyddiad yn hwyr neithiwr (dydd Mawrth, Tachwedd 14) yn un o safleoedd yr heddlu yn y rhanbarth gorllewinol, Farah, ac fe barhaodd y brwydro am fwy na phedair awr, yn ôl swyddogion.

Mae’n debyg bod pennaeth yr heddlu yn yr ardal ymhlith y meirw.

Fe lwyddodd ymladdwyr y Taliban i ddianc o’r safle gyda storfa helaeth o arfau, ond mae’n debyg bod 17 wedi cael eu lladd yn ystod cyrch awyr a gafodd ei gynnal fel ymateb i’r ymosodiad blaenorol.

Mae’r Taliban wedi bod yn cynnal ymosodiadau yn ddyddiol ledled Afghanistan yn ystod y misoedd diwethaf, gan achosi colledion difrifol i fyddin y wlad.