Mae Llywodraeth Sri Lanka wedi methu â goroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn Senedd y wlad, ychydig wythnosau ar ôl i’r Prif Weinidog, Mahinda Rajapaksa gael ei benodi.

Fe ddaeth gwleidyddion ynghyd am y tro cyntaf heddiw (Tachwedd 14) ar ôl i arlywydd y wlad ddiswyddo’r Cabinet a gohirio’r Senedd fis diwethaf.

Mae’r bleidlais o ddiffyg hyder, a gafodd ei chynnig gan arweinydd un o bleidiau’r wrthblaid, yn golygu y bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog presennol gamu o’r neilltu.

Mae’n ymddangos bod gan Ranil Wickremesinghe, a gafodd ei benodi i olynu Mahinda Rajapaks ar Hydref 26, fwyafrif clir  o ran cefnogaeth yn y Senedd.

Ond yn ôl mab y Prif Weinidog, Namal Rajapaksa, dyw’r Llywodraeth “ddim yn derbyn y dyfarniad”, ac maen nhw’n gobeithio parhau i lywodraethu.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ohiriodd yr Arlywydd Maithripala Sirisena y Senedd oherwydd ei bod yn edrych yn debyg na fydd y Llywodraeth yn goroesi’r bleidlais o ddiffyg hyder.

Ond fe ddyfarnodd yr Uchel Lys yn y wlad ddoe fod angen i’r Senedd barhau i weithio tan fis nesaf.