Mae arweinydd yr wrthblaid yn Rwsia wedi cael ei atal rhag gadael y wlad, tra oedd ar ei ffordd i Ffrainc ar gyfer gwrandawiad allweddol yn Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Mewn neges ar we heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 13), dywed Alexei Navanly fod y gwrandawiad yn ystyried a yw ei garcharu parhaus gan yr awdurdodau yn Rwsia yn weithred wleidyddol ai peidio.

Cafodd ei rwystro gan swyddogion ar ffin y wlad, wedi iddyn nhw dderbyn gorchymyn cyfreithiol i’w atal.

Mae cyfreithiwr Alexei Navalny wedi cyhoeddi llun o’r gorchymyn ar y we, gan dynnu sylw at y ffaith nad oes dyddiad penodol arno a’i fod yn brin o wybodaeth.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r awdurdodau weithredu yn erbyn y gwleidydd, gyda rhai’n credu bod y cyhuddiadau sydd wedi’u dwyn yn ei erbyn yn y gorffennol yn ymgais gan y Kremlin i ddifwyno ei enw.

Mae wedi cael ei atal rhag gadael y wlad ddwywaith o’r blaen, ond cafodd y gwaharddiad ei dynnu oddi arno y llynedd pan oedd angen triniaeth feddygol frys arno yn Sbaen.