Mae llwyddiant hwyr wedi dod i’r Democratiaid yn yr Unol Daleithiau, ar ôl iddyn nhw lwyddo i gipio sedd yn y Senedd yn un o gadarnleoedd y Gweriniaethwyr.

Yn dilyn ailgyfrif araf na ddaeth i ben tan ddoe (dydd Llun, Tachwedd 13), daeth i’r amlwg bod Kyrsten Sinema wedi ennill y blaen ar ei gwrthwynebydd Gweriniaethol, Martha McSally.

Mae bron wythnos ers yr etholiadau canol tymor, lle llwyddodd y Democratiaid i ddod y blaid fwyaf yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr, tra bo’r Gweriniaethwyr wedi dal eu gafael ar y Senedd.

Mae’r Democratiaid wedi bod yn targedu sedd Arizona ers blynyddoedd, ac roedd y ras i’w hennill eleni yn un o’r rhai poethaf yn y wlad.

Bydd Kyrsten Sinema y ymuno â’r dros gant o fenywod a gafodd eu hethol i’r Gyngres yr wythnos ddiwethaf – y nifer fwyaf erioed.