Mae llys yn Awstralia wedi gwrthod ystyried rhoi mechnïaeth i ddynes sy’n cael ei hamau o roi nodwyddau mewn pecynnau mefus.

Roedd yr ynad Christine Roney wedi cyhuddo’r gyn-weithwraig fferm, My Ut Trinh, 50 oed, o weithredu trwy “falais a dial” oherwydd anfodlonrwydd yn y gwaith.

Fe achosodd y weithred ym mis Medi cryn ddinistr i’r diwydiant mefus yn y wlad, wedi i nifer o becynnau orfod cael eu galw’n ôl o siopau.

Cafodd My Ut Trinh ei harestio ddoe (dydd Sul, Tachwedd 12), gan gael ei chyhuddo o saith achos o heintio bwyd gyda’r bwriad o achosi colled ariannol.

Mae’n wynebu hyd at ddeng mlynedd yn y carchar os yw’n ei chael yn euog.