Mae 31 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r tanau gwyllt yng Nghalifornia.

Parhau i ledu yn ne a gogledd y dalaith mae’r tanau, ac mae disgwyl i wyntoedd cryfion dros nos waethygu’r sefyllfa.

Mae nifer y meirw yn y gogledd yn unig wedi cynyddu i 29, tra bo’r heddlu’n dweud bod bron i 230 o bobol yn dal ar goll.

Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, a’i wraig, Michelle, wedi dweud mewn neges eu bod yn torri eu calonnau wrth feddwl am bobol sydd wedi “colli cymaint” yng Nghalifornia.

“Rydym yn ddiolchgar am arwriaeth y diffoddwyr tân sydd wedi rhoi eu bywydau mewn perygl wrth geisio achub eraill,” meddai’r ddau ar Twitter.