Mae adran iechyd llywodraeth y Congo yn dweud bod y wlad yn profi’r achosion gwaethaf erioed o Ebola ar hyn o bryd.

Mae’r awdurdodau’n ymwybodol o 319 o achosion – rhai wedi’u cadarnhau ac eraill wedi’u tybio.

Ers Awst 1, mae 163 o achosion wedi’u cadarnhau a 35 o bobol ‘fwy na thebyg’ wedi marw.

Dyma’r degfed tro i Ebola gyrraedd y wlad ers 1976, y tro cyntaf i’r Congo glywed sôn am y salwch. Mae lefel y salwch yn uwch o lawer y tro hwn na’r tro cyntaf hwnnw.

Mae swyddogion iechyd yn rhybuddio bod nifer fawr o bobol mewn perygl, ar ôl iddyn nhw lwyddo i frechu dros 27,000 o bobol sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Gallai hanner y rheiny fod wedi’u heintio.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud eu bod yn bwriadu gwneud mwy i fynd i’r afael â’r sefyllfa, ond maen nhw’n wynebu ymosodiadau yn y wlad wrth iddyn nhw geisio trin cleifion – y trais gwaethaf erioed iddyn nhw ei brofi wrth drin Ebola yn y wlad.