Mae’r pleidleisiau yn yr etholiad ar gyfer Seneddwr a Llywodraethwr Fflorida yn cael eu hailgyfrif erbyn hyn.

Fe wnaeth ysgrifennydd gwladol y dalaith, Ken Detzner, orchymyn yr ailgyfri neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 10) yn y dalaith lle cymerodd hi bum wythnos i ddewis enillwyr ar gyfer y ddwy swydd yn 2000.

Mae disgwyl i’r gwaith gymryd rhai diwrnodau, gydag oddeutu 800,000 o bleidleisiau wedi’u bwrw mewn un sir, De Fflorida.

Dywed Ken Detzner nad yw’n cofio achlysur arall pan gafodd y pleidleisiau ar gyfer y naill swydd na’r llall eu hailgyfri – heb sôn am y ddwy yn yr un etholiad.

Mae 67 o siroedd yn Fflorida, ac mae ganddyn nhw tan ddydd Iau i gwblhau’r ailgyfri.

Mae disgwyl i siroedd Pinellas a Hillsborough ddechrau ar y gwaith heddiw (dydd Sul, Tachwedd 11), gyda’r canlyniadau cychwynnol yn dangos bod y Gweriniaethwr Ron DeSantis ar y blaen i’r Democrat Andrew Gillum o 0.5 o bwyntiau canran, sy’n golygu y bydd angen peiriant i ailgyfri’r pleidleisiau.

Roedd disgwyl i Andrew Gillum ildio, ond mae wedi mynnu bod “pob un bleidlais” yn cael ei chyfri, ond y byddai’n derbyn y canlyniad.

Yn y ras ar gyfer y Senedd, mae gan y Gweriniaethwr Rick Scott flaenoriaeth o lai na 0.25 o bwyntiau canran dros y Democrat Bill Nelson.