Mae gwrthdaro mawr rhwng yr heddlu a phrotestwyr o blaid annibyniaeth i Gatalwnia yn Barcelona.
Mae’r protestwyr yn gwrthwynebu rali gan heddluoedd Sbaen sy’n galw am godiad cyflog.
Dyma’r ail achos o wrthdaro tebyg ers mis Medi, adeg y brotest gyntaf pan gafodd 20 o bobol anafiadau.
Dyma’r digwyddiad diweddaraf yn y frwydr tros annibyniaeth i Gatalwnia, sy’n hollti barn trigolion Sbaen a Chatalwnia.