Mae etholiad cyffredinol wedi’i alw yn Sri Lanca mewn ymgais i ddod ag argyfwng y Llywodraeth i ben.

Mae llywodraeth y wlad wedi’i diddymu ers nos Wener (Tachwedd 9) yn dilyn penderfyniad yr Arlywydd Maithripala Sirisena i ddiswyddo’r Prif Weinidog Ranil Wickremesinghe ar Hydref 26.

Mae disgwyl i restr o ymgeiswyr gael ei llunio erbyn Tachwedd 26, ac fe fydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar Ionawr 17 y flwyddyn nesaf.

Mahinda Rajapaksa yw Prif Weinidog y wlad ar hyn o bryd.

Mae Maithripala Sirisena wedi’i feirniadu ynghylch ei benderfyniad i ddiddymu’r Senedd, ac mae Ranil Wickremesinghe yn honni bod ei ddiswyddiad yn “anghyfansoddiadol”.

Mae Maithripala Sirisena wedi cyhuddo’r cyn-Brif Weinidog o gynllwynio i’w ladd, ac mae e hefyd wedi beirniadu ei bolisïau economaidd.

Fe allai Ranil Wickremesinghe herio’r penderfyniad i ddiddymu’r Senedd, gan fod rheolau’r wlad yn nodi na all Senedd gael ei diddymu am bedair blynedd a hanner wedi iddi gael ei hagor. Daeth y Senedd bresennol at ei gilydd am y tro cyntaf ym mis Awst 2015.