Mae mynediad at ddŵr glân yn “hawl ddynol” pob unigolyn ar y ddaear, meddai’r Pab Ffransis, gan dynnu sylw at y ffaith bod miliynau o bobol yn cael eu taro’n wael bob blwyddyn ac yn marw oherwydd diffyg.

Mewn neges i gynhadledd o reolwyr heddiw (dydd Iau, Tachwedd 8) mae pennaeth yr Eglwys Gatholig yn dweud fod rhyfeloedd, llygredd gwleidyddol a buddiannau ariannol arweinwyr gwledydd yn rhwystro pawb yn y byd rhag cael mynediad at ddŵr glân.

Mae cydnabod dŵr glân fel hawl ddynol yn rhaid, meddai – ac mae’n golygu ymwrthod hefyd â’r syniad o ddŵr fel rhywbeth i’w brynu a’i werthu ac o ymelwa ohono.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cydnabod yr hawl gyfreithiol i ddŵr yfed glân a diogel ers 2010.