Mae Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau, Jeff Sessions, wedi camu o’r neilltu.

Daw hyn yn sgil misoedd o feirniadaeth gyhoeddus gan yr arlywydd, ac yn dilyn etholiadau lle collodd y Gweriniaethwyr eu gafael ar dŷ isaf y Gyngres.

Yn ei lythyr ymddiswyddiad , mae Jeff Sessions yn nodi’n glir ei fod yn gadael “yn unol â dymuniad” Donald Trump, ac mae’n ymatal rhag ei ganmol.

Y cyn-bennaeth staff, Matthew Whitaker, sydd wedi ei benodi i olynu Jeff Sessions dros dro, ac mae plaid y Democratiaid wedi lleisio eu pryderon am hynny.

Ag yntau’n Dwrnai Cyffredinol, bydd ganddo rywfaint o awdurdod tros ‘ymchwiliad Muller’ – sef yr ymchwiliad i honiadau o ymyrraeth Rwsiaidd yn etholiadau arlywyddol 2016.

Mae Matthew Whitaker eisoes wedi beirniadu’r ymchwiliad, ac wedi awgrymu y gallai Twrnai Cyffredinol ei rhwystro’n llwyr.