Mae maer prifddinas gwlad Pwyl wedi gwahardd gorymdaith asgell-dde rhag digwydd yn ystod dathliadau Diwrnod Annibyniaeth y wlad.

Yn ôl Hanna Gronkiewicz-Waltz, bwriad ei phenderfyniad yw dod â “chenedlaetholdeb treisgar” yng ngwlad Pwyl i ben, wrth i nifer o grwpiau eithafol deithio i’r wlad er mwyn cynnal ralïau.

Mae gorymdeithiau asgell-dde wedi cael eu cynnal yn rheolaidd ar Ddiwrnod Annibyniaeth, sef Tachwedd 11, ers bron degawd.

Mae’r awdurdodau yn Wroclaw wedi penderfynu gwahardd gorymdeithiau o’r fath hefyd.

Mae eleni’n dynodi can mlynedd ers i Wlad Pwyl sicrhau annibyniaeth, digwyddiad a ddaeth yn sgil diwedd y Rhyfel Mawr.