Mae 36 o ymgeiswyr yn y ras i fod yn Arlywydd nesaf Madagasgar, lle mae tlodi enbyd a llygredd ariannol ar frig yr agenda wleidyddol.
Mae disgwyl i hyd at ddeg miliwn o bobol fwrw eu pleidlais yn yr etholiad.
Mae pob un o’r ymgeiswyr yn addo gwella’r economi, creu swyddi a rhoi terfyn ar dwyll ariannol.
Ond mae tri o’r ymgeiswyr yn hen gyfarwydd i bleidleiswyr fel rhai sy’n cynnig ychydig iawn o obaith o newidiadau.
Yr etholiad
Er mwyn dod i rym, fe fydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ennill mwy na 50% o’r bleidlais.
Bydd canlyniadau’r rownd gychwynnol yn dechrau cael eu cyfri ar Dachwedd 14 gyda chyhoeddiad terfynol cyn Tachwedd 28.
Mae disgwyl ail rownd wedyn, a fydd yn cael ei chynnal ar Ragfyr 19.