Mae sancsiynau’r Unol Daleithiau ar Iran wedi cael eu hail-gyflwyno.
Cafodd y sancsiynau eu codi yn sgil y cytundeb arfau yn 2015.
Dywedodd gweinyddiaeth Donald Trump eu bod yn gosod y sancsiynau “mwyaf llym” erioed a fydd yn targedu olew, bancio a llongau.
Mae Llywodraeth Donald Trump yn gobeithio y bydd y sancsiynau yn newid polisïau Iran yn y rhanbarth, yn enwedig y gefnogaeth i grwpiau milwriaethus a’r rhaglen daflegrau balistig.