Mae niferoedd uchel o bobol yn pleidleisio mewn refferendwm i benderfynu a ddylai Caledonia Newydd fod yn annibynnol o Ffrainc.

Fe fu’r diriogaeth i’r dwyrain o Awstralia yn y Môr Tawel o dan reolaeth y Ffrancwyr ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae lle i gredu bod bron i 75% o’r rhai sydd wedi cofrestru i bleidleisio wedi bwrw eu pleidlais, ac mae disgwyl y canlyniad heno (nos Sul, Tachwedd 4).

Mae disgwyl i Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron drafod dyfodol y diriogaeth ar y teledu yn ystod y dydd.

Nicel yw prif ddiwydiant y diriogaeth, ond mae’n ddibynnol ar Ffrainc ym meysydd amddiffyn, y gyfraith, materion tramor, cyfiawnder ac addysg. Mae’n derbyn oddeutu 1.3 biliwn Ewro y flwyddyn gan Ffrainc bob blwyddyn, ac mae pryderon am yr economi pe bai’n ennill annibyniaeth.

Pe bai’r refferendwm yn aflwyddiannus, fe fydd gan y diriogaeth yr hawl i gynnal dau refferendwm arall cyn 2022.