Mae arlywydd Rwsia wedi canmol gwasanaeth cudd-wybodaeth y wlad am eu “proffesiynoldeb a’u dewrder”.

A hithau’n ganmlwyddiant sefydlu’r GRU (Y Brif Gyfarwyddiaeth Cudd-wybodaeth), mae Vladimir Putin hefyd wedi canmol eu gweithredoedd yn Syria.

Daw’r ganmoliaeth yn sgil cyhuddiadau gan y Gorllewin yn erbyn ymddygiad y gwasanaeth cudd-wybodaeth.

Mae’r GRU wedi cael eu cyhuddo o gynnal ymosodiad nwy ar gyn-ysbïwr Rwsiaidd yng ngwledydd Prydain, ac wedi’u cyhuddo o ymyrryd yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2016.

Mae awdurdodau Rwsiaidd wedi wfftio’r cyhuddiadau, gan gyhuddo’r Gorllewin o geisio pardduo enw eu gwlad.