Mae dyn o Awstralia wedi cael ei ddedfrydu i ddeng mlynedd o garchar ar ôl annog ei wraig i ladd ei hun er mwyn derbyn arian yswiriant.

Cafodd Graham Morant ei ddedfrydu mewn llys yn Queensland ym mis Hydref ar gyhuddiadau o gynghori a chynorthwyo ei wraig i gyflawni hunanladdiad yn 2016.

Cafodd y gŵr 69 oed ddedfryd sy’n cynnwys deng mlynedd o garchar, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf pum mlynedd dan glo cyn gwneud cais am barôl.

Er bod pobol wedi cael eu dedfrydu i garchar yn Awstralia am gynorthwyo pobol i ladd eu hunain, dyma’r achos cyntaf lle mae unigolyn wedi perswadio un arall i gyflawni’r weithred.