Mae Tsieina yn dweud y bydd yn caniatau prynu a gwerthu cynnyrch sy’n deillio o anifeiliaid prin fel y teigr a’r rheinosorws “dan amodau arbennig” – sy’n golygu gwrthdroi gwaharddiad oedd mewn lle yn y wlad.

Mae rhybudd newydd gan gabinet Tsieina yn dweud y bydd y llywodraeth yn “rheoli” unrhyw fasnach mewn cyrn rheino ac esgyrn teigr, ac na fydden nhw’n caniatau prynu a gwerthu oni bai eu bod yn dod o anifeiliaid sydd wedi’u ffermio, ac nid anifeiliaid gwyllt.

Fe fydd yn rhaid i’r defnydd o’r cyrn neu’r esgyrn fod at ddefnydd “ymchwil meddygol neu wellhad” cyn y bydd yn cael ei ganiatau.

Mae mudiad bywyd gwyllt y WWF yn dweud y bydd yna “ganlyniadau enbyd” i’r cyhoeddiad hwn – nid yn Tsieina yn unig, ond ledled y byd – trwy ganiatau i botsiwyr a smyglwyr allu camddefnyddio’r hawl i wneud elw.