Mae asiantaeth amgylchedd yr Undeb Ewropeaidd wedi datgan bod llygredd aer yn gwella ar draws y cyfandir ar y cyfan.

Er hynny,  mae’n parhau i fod yn rhy uchel i ofynion canllawiau asiantaeth iechyd y Cenhedloedd Unedig.

Yn ol adroddiad 2018 yr Asiantaeth Amgylchedd Ewropeaidd ar ansawdd – allyriadau o draffig ar y ffyrdd, amaethyddiaeth, trydan, diwydiannau a thai sy’n gyfrifol am allyriadau fel nitrogen deuocsid ac ocson ar lefel y ddaear.

Cafodd yr adroddiad ei seilio ar fwy na 2,500 o ganolfannau monitro ar draws Ewrop yn 2016.

“Angen ymdrechu’n well”

“Mae llygredd aer yn lofrudd anweledig”, meddai pennaeth yr asiantaeth, Hans Bruyninckx, “ac mae angen inni ymdrechu’n well i fynd i’r afael a’r achosion.”

Dywedodd fod rhaid i Ewrop “ailbennu ei ymdrechion i leihau allyriadau a achosir gan drafnidiaeth, ynni ac amaethyddiaeth a buddsoddi i’w gwneud yn lanach ac yn fwy cynaliadwy.”