Mae trigolion Brasil wedi dechrau pleidleisio yn etholiad arlywyddol y wlad.

Mae ganddyn nhw ddewis rhwng Jair Bolsonaro ar yr asgell dde, a chyn-Faer Sao Paulo Fernando Haddad.

Yn ôl polau cynnar, mae gan Jair Bolsonaro fantais o ddeg pwynt, ond mae’r bwlch rhwng yr ymgeiswyr wedi bod yn cau’n raddol.

Mae Jair Bolsonaro yn cynrychioli Rio de Janeiro yn y Gyngres.

Yn y rownd gyntaf ar Hydref 7, enillodd Jair Bolsonaro 46% o’r bleidlais o’i gymharu â 29% i Fernando Haddad.

Tra bod Jair Bolsonaro yn addo lleihau torcyfraith a gwella’r economi, prif flaenoriaethau Fernando Haddad yw datblygu ar bolisïau Plaid y Gweithwyr oedd mewn grym rhwng 2003 a 2016.