Mae arlywydd Sri Lanca wedi diswyddo Prif Weinidog y wlad, gan benodi ffigwr dadleuol yn ei le, ac wedi diddymu’r senedd am y tro.

Daeth y cyhoeddiad am ddiddymu’r senedd yn ystod cynhadledd i’r wasg y cyn-Brif Weinidog, Ranil Wickremesinghe, sydd wedi trosglwyddo’r awenau i Mahinda Rajapaksa, yn ôl yr Arlywydd Maithripala Sirisena.

Roedd Maithripala Sirisena a Ranil Wickremesinghe wedi cynghreirio â’i gilydd ar un adeg er mwyn curo Mahinda Rajapaksa yn etholiad 2014.

Ond bellach mae’n edrych fel pe bai’r undod hwnnw wedi dod i ben, yn ogystal â gelyniaeth yr Arlywydd â’r Prif Weinidog newydd o’r gorffennol.

I gymhlethu pethau ymhellach, mae’n debyg i Maithripala Sirisena ddod yn Arlywydd gyda chefnogaeth plaid Ranil Wickremesinghe – felly mae’n debygol bod gelyniaeth newydd ar fin blaguro.

Yn sgil y cam diweddaraf, mi fydd y llywodraeth glymblaid a arweiniodd y wlad am dair blynedd yn dod i ben.