Mae Google wedi diswyddo 48 aelod o staff am achosion honedig o aflonyddu rhywiol ers 2016, meddai’r prif weithredwr.

Roedd 13 o uwch reolwyr ymhlith y rhai gafodd eu diswyddo, yn ôl e-bost a gafodd ei anfon at staff gan y prif weithredwr Sundar Pichai.

Dywedodd y cwmni technoleg ei fod yn gweithredu’n “gadarn” wrth ymateb i honiadau o gamymddwyn gan uwch reolwyr ac wedi cynnig cyfleoedd i staff roi gwybod am achosion o aflonyddu yn ddienw.

Cafodd y ffigwr ei ddatgelu gan Sundar Pichai mewn ymateb i adroddiad ym mhapur y New York Times, a oedd yn awgrymu bod Andy Rubin, a oedd yn cynhyrchu meddalwedd ffonau Android Google, wedi derbyn tal diswyddo gwerth £70.2 miliwn, er ei fod yn wynebu honiadau o gamymddwyn rhywiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Andy Rubin wrth y papur ei fod yn gwadu unrhyw gamymddwyn ac nad oedd wedi cael gwybod am yr honiadau pan adawodd y cwmni yn 2014.

Yn yr e-bost at staff, dywedodd Sundar Pachai bod Google yn “sicrhau ein bod yn adolygu pob un gwyn am aflonyddu rhywiol neu ymddygiad amhriodol,” a bod y cwmni yn “ymchwilio ac yn cymryd camau gweithredu.”