Mae swyddogion sy’n ymchwilio i ffynhonnell bomiau sydd wedi cael eu hanfon yn y post at bobol sydd wedi bod yn feirniadol o’r Arlywydd Donald Trump, yn amau bod rhai o’r pecynnau wedi cael eu hanfon o Fflorida.

Mae tair dyfais arall wedi cael eu cysylltu â’r digwyddiad – roedd dwy wedi cael eu cyfeirio at y cyn-ddirprwy arlywydd Joe Biden, ac un at yr actor Robert De Niro. Mae 10 o’r dyfeisiadau bellach wedi cael eu hanfon ac mae’r awdurdodau yn rhybuddio y gallai fod mwy.

Mae archwiliad o swyddfa ddidoli post yn awgrymu y gallai rhai o’r dyfeisiadau fod wedi cael eu hanfon o Fflorida ac mae’r awdurdodau yn canolbwyntio ar swyddfa yn Opa-locka.

Mae’r dyfeisiadau wedi cael eu hanfon at Barack Obama, Hillary Clinton, y biliwnydd George Soros a CNN ymhlith eraill.