Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi dweud mai celu marwolaeth y newyddiadurwr o Saudi Arabia, Jamal Khashoggi yw’r “achos gwaethaf o gelu erioed”.

Mae’r rhai sydd wedi’u hamau o’i ladd wedi colli eu fisas, wrth i Donald Trump ddweud wrth newyddiadurwyr yn y Tŷ Gwyn fod yr ymchwiliad yn “ffiasgo”.

“Fe gafodd ei gwblhau’n wael, a’r achos o gelu oedd un o’r achosion gwaethaf o gelu erioed. Fe wnaeth rhywun gawlach.”

Serch hynny, mae Donald Trump wedi gwrthod cefnu ar gytundebau i werthu arfau i wledydd y Gwlff, rhag ofn y byddai’n corddi eu harweinwyr.

Mae aelodau Cyngres yr Unol Daleithiau yn galw am gosbi Saudi Arabia yn sgil yr helynt.

Cefndir

Newyddiadurwr gyda’r Washington Post oedd Jamal Khashoggi oedd wedi byw’n alltud o’i wirfodd ei hun yn yr Unol Daleithiau. Roedd e wedi bod yn feirniadol o’r Tywysog Coronog Mohammed bin Salman.

Aeth e ar goll ar Hydref 2 ar ôl mentro i lysgenhadaeth Saudi Arabia yn Nhwrci ar ôl mynd yno i gasglu dogfennau er mwyn priodi.

Yn ôl swyddogion Twrci, cafodd ei arteithio a’i ladd gan 15 o ddynion oedd wedi tynnu ei gorff yn ddarnau, a hynny ar ôl i Saudi Arabia gynllunio ei farwolaeth yn ofalus dros gyfnod o rai dyddiau.

Mae Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan wedi galw am adnabod y rhai oedd yn gyfrifol, a’u rhoi yn nwylo’r awdurdodau.

Mae’n gwrthod fersiwn Saudi Arabia o’r hyn oedd wedi digwydd i Jamal Khashoggi, sef iddo farw’n ddamweiniol mewn ffrwgwd. Fe gymerodd rai wythnosau iddyn nhw gyfaddef ei fod e wedi marw.

‘Ffiasgo’

Dywedodd yr Arlywydd Donald Trump, “Roedd yn ffiasgo llwyr. Doedd y broses ddim yn dda. Doedd y lladdfa ddim yn dda. A doedd y celu, os liciwch chi, yn sicr ddim yn dda.”

Dydy’r Ysgrifennydd Gwladol Mike Pompeo ddim wedi dweud pwy yw’r unigolion sydd wedi colli eu fisas, ond fe gadarnhaodd fod yna 21 ohonyn nhw.

Ychwanegodd, “Dydw i na’r Arlywydd ddim yn hapus gyda’r sefyllfa hon.”