Mae dyn 54 oed wedi cael ei ddedfrydu i garchar yn yr Almaen ar ôl iddo roi gwenwyn mewn bwyd babi a’i osod ar silffoedd archfarchnadoedd.

Yn ôl y gwasanaeth newyddion, DPA, roedd y gŵr wedi cyflawni’r weithred mewn ymgais i gael arian gan yr archfarchnadoedd.

Mae’n debyg ei fod wedi anfon e-byst bygythiol at siopau yn yr Almaen y llynedd yn bygwth gwenwyno bwydydd pe na baen nhw’n talu 10m euro (£8.8m) iddo.

Roedd wedyn wedi cysylltu â’r awdurdodau yn dweud ei fod wedi ymyrryd â phum jar o fwyd babi mewn siopau yn Friedrichshafen.

Cadarnhaodd swyddogion fod y jariau yn cynnwys ethylene glycol, ond maen nhw’n mynnu na chafodd yr un ohonyn nhw eu gwerthu i gwsmeriaid.

Mae’r troseddwr wedi’i ddedfrydu i ddeuddeng mlynedd dan glo.