Mae heddlu Ffrainc wedi clirio tua 1,800 0 bobol o wersyll ar gyfer ffoaduriaid ar gyrion dinas Dunkirk.
Fe fyddan nhw’n cael eu hanfon i ganolfannau derbyn yng ngogledd y wlad, lle bydd yr awdurdodau yn penderfynu a fyddan nhw’n cael lloches ai peidio.
Roedd y gwersyll yn Grande-Synthe yn gartref dros dro i Gwrdiaid o Irac, lle mae pobol sy’n manteisio ar brynu a gwerthu pobol wedi bod yn gweithredu ers blynyddoedd.
Ym mis Medi ac ym mis Mehefin, fe gafodd cannoedd o ffoaduriaid eu hel oddi yno, a’u cadw mewn campfa.